Bocsys Nadolig 2016 Bu'r plant yn brysur yn llenwi hen focsys esgidiau gyda anrhegion i gefnogi ymgyrch Teams4u sy'n rhannu'r rhoddion rhwng plant tlotaf dwyrain Ewrop. Yn yr ysgol casglwyd 70 o focsys i gyd. Cliciwch yma weld mwy o luniau |
04.10.16 Cefnogi Elusen Macmillan Bore Gwener Medi 30ain cynhaliwyd bore coffi Macmillan yn neuadd yr Ysgol. Daeth nifer o ffrindiau'r ysgol i gefnogi a hefyd gwerthwyd cacennau i'r disgyblion. Casgwlyd £560 tuag at yr elusen. Diolch i bawb am gefnogi! Cliciwch yma am fwy o luniau |
Diwrnod Ffrengig Ar Fehefin y 10fed bu'r disgyblion yn dathlu Cymru yn yr Ewro 2016 drwy gynnal diwrnod Ffrengig yn yr ysgol. Cafwyd cinio arbennig a gwisgodd y plant ddillad Ffrengig. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
Mae Ysgol Cymerau a Choleg Meirion Dwyfor yn cydweithio'n agos iawn ar hyn o bryd er mwyn cynnig Cwricwlwm Amgen i ddisgyblion Blwyddyn 6 ar gyfer mis Mai 2016.
Mewn partneriaeth â Phennaeth Canolfan Ehangu Mynediad, Prifysgol Bangor, ein bwriad yw cynnig sesiynau blasu megis:
Fel rhan o weithgareddau Cwricwlwm Amgen yr ysgol, rydym wedi trefnu dyddiadau ar gyfer Blwyddyn 6 i ymweld â Cholegau Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli, Dolgellau a Glynllifon.
Bwriad yr ymweliadau yw i roi blas i’r plant o’r math o gyrsiau sydd ar gael iddynt a phwysigrwydd Llythrennedd a Rhifedd yn eu gyrfaoedd.
Bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai gwahanol megis Harddwch a Thrin Gwallt, Arlwyo, Adeiladwaith, Iechyd a Gofal, Busnes, Peirianneg Morwrol, Amaeth, Peirianneg a Gofal Anifeiliaid. Mi fydd angen pecyn bwyd, gwisg ysgol Cymerau a châs pensiliau ar gyfer y tri diwrnod. Gweler isod yr amserlen ar gyfer yr ymweliadau:
Coleg | Dyddiad | Amser cychwyn | Amser dychwelyd |
Dolgellau | Dydd Llun 23/5/16 | 8:45a.m | 3:45p.m |
Pwllheli | Dydd Mawrth 24/5/16 | 9:00a.m | 3:45p.m |
Glynllifon | Dydd Iau 26/5/16 | 9:00a.m | 3:45p.m |
Cliciwch yma am Brospectws Coleg Meirion-Dwyfor 15/16
Rhif Ffôn: (01758) 612001
E-bost: alan.jones@cymerau.ysgoliongwynedd.cymru
Cyfeiriad: Ffordd Mela, Pwllheli, Gwynedd LL53 5AR
© 2024 Ysgol Cymerau | Datganiad Preifatrwydd | Gwefan gan Delwedd