Tarian Steffan 2019
I weld mwy o luniau - cliciwch yma |
Stori a Chrefftau Carys Ofalus
I gael mwy o wybodaeth - cliciwch yma |
Criw Celf Bach
I gael mwy o wybodaeth - cliciwch yma |
Sialens Ddarllen yr Haf
I gael mwy o wybodaeth - cliciwch yma |
Prom 2019
I weld mwy o luniau - cliciwch yma |
Ffair Haf
Diolch anferthol i bawb a ddaeth i gefnogi a chyfrannu tuag at y Ffair Haf neithiwr. Casglwyd £952.34! |
Gwobr Eco Ysgolion
LLONGYFARCHIADAU i griw Coed y Winllan ar ennill gwbr arbennig Eco Ysgolion yng nghystadleuaeth y Criw Mentrus yng Nhaerdydd!! |
Criw Mentrus
Llongyfarchiadau i'r 4 fu'n cynrychioli'r ysgol yng nghystadleuaeth y Criw Mentrus. Maent nawr yn mynd i'r rownd derfynol yng Nghaerdydd!! |
Dyddiadau mabolgampau
Mabolgampau CA2 (dewis 1) - 25/06/19 (trwy'r dydd) Mabolgampau CS (dewis 1) - 28/06/19 (P'nawn) |
Diwrnod gwisgo dillad eich hunain i'r ysgol
Trawsgwlad
Gweler wybodaeth ynglyn â chystadleuaeth Trawsgwlad Dwyfor a fydd yn cael ei chynnal ar gaeau Ysgol Glan Y Mor Ddydd Llun Mai 20 am 16:30. Bydd pawb sydd yn rhedeg yn cael medal. Nid oes angen cofrestru dim ond troi i fyny a rhedeg. Manylion pellach ar y poster. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
Tîm Darllen Dros Gymru
Llongyfarchiadau i Dîm Darllen Dros Gymru Bl. 5 a 6, sydd wedi cael 1af allan o 26 ysgol yng Ngwynedd! Ymlaen rwan i’r gystadleuaeth genedlaethol yn Aberystwyth! |
BIG PEDAL 2019
Yn dilyn llwyddiant yr ysgol llynedd wrth ddod yn gyntaf yn ysgolion mawr Cymru, byddwn unwaith eto yn cymryd rhan yn y Big Pedal 2019! Ar bob diwrnod o'r her bydd ysgolion yn cystadlu i weld pwy all gofnodi'r nifer mwyaf o ddisgyblion, staff a rhieni sydd yn beicio, sgwterau a cerdded i'r ysgol. I weld trefniadau Big Pedal 2019 - cliciwch yma I weld mwy o luniau - cliciwch yma |
Enillwyr cystadleuaeth dylunio baner Diogelwch y Ffordd
Diwrnod Trwynau Coch 2019
Gweler y poster am fwy o wybodaeth - cliciwch yma I weld mwy o luniau - cliciwch yma
|
Ymweliad yr AS Liz Saville Roberts a Chynghorwyr Lleol
Lluniau ymweliad yr AS Liz Saville Roberts a Chynghorwyr Lleol i edrych ar adeilad Ysgol Cymerau. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu hamser i gefnogi yr ysgol.
|
Flwyddyn newydd Tsieineaidd
Pawb wedi mwynhau cinio arbennig i ddathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd heddiw. Diolch i Anti Janice a merched y gegin am ei baratoi!
|
GWELLA DIOGELWCH Y FFYRDD Y TU ALLAN I'R YSGOL
NEGES BWYSIG: Gofynnwn yn garedig i chi beidio a pharcio ar y llinellau igam-ogam nag ar Ffordd y Faenor i godi a chasglu eich plentyn/plant os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth. |
Dyddiadau Sioeau Nadolig
Dyddiadau Sioeau Nadolig Ysgol Cymerau, 2018.
|
Ffair Lyfrau
Ffair Lyfrau Book People yn Nerbynfa'r Ysgol o ddydd Mercher 5ed o Ragfyr tan ddydd Llun y 10fed o Ragfyr rhwng 3:00 a 4:00. Dewch draw! |
RAFFL FAWR Y ‘DOLIG
Mae tocynnau dal ar gael i'w prynu yn y llefydd isod: Post Bach South Beach £1 yr un, neu £5 am lyfr Os oes ganddoch ddiddordeb mewn gwerthu tocynnau, dewch draw i dderbynfa'r ysgol. Caiff y raffl ei dynnu yn Sioe Nadolig Bl. 5 a 6 ar y 13/12/18. Diolch yn fawr. |
Diolch o galon
Diolch o galon i holl blant, staff, rhieni a ffrindiau Ysgol Cymerau am gefnogi’r Ffair Nadolig neithiwr! Diolch hefyd i’r holl fusnesau lleol sydd wedi cyfrannu mor hael tuag at wobrau ar gyfer y rafflau. Diolch arbennig hefyd i Mr Seimon Glyn a Jo Scott, Asda Pwllheli am ymuno hefo ni. Rydym yn gwerthfawrogi pob ceiniog yn fawr iawn er mwyn prynu adnoddau TGCh newydd i’r plant. Diolch yn fawr iawn. |
Y Gwystl
Diolch i griw Y Gwystl am groesawu criw Bl.6 y Cyngor Ysgol wythnos diwethaf! I weld mwy o luniau - cliciwch yma |
Ffair Nadolig
Gofynnwn yn garedig am unrhyw eitemau ar gyfer tombola, raffl neu hamperi erbyn bore Mercher, Tachwedd 28ain os bosibl os gwelwch yn dda. Hefyd, byddwn yn ddiolchgar iawn o unrhyw gyfraniad o gacennau, bach neu fawr, tuag at y stondin gacennau. Diolch yn fawr.
|
PLANT MEWN ANGEN
Thanks to everyone who contributed today, and helped us raise this brilliant amount!!
|
DIOLCH
100 bocs wedi mynd i Apêl Bocsys Nadolig T4U!
|
Diwrnod Plant mewn Angen. Dydd Gwener yma 16/11/18
Mae croeso i bawb wisgo pyjamas i’r ysgol am gyfraniad o £1. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o gacennau bach i werthu yn yr ysgol am 50c yr un ar y diwrnod hefyd! Cofiwch ddod a pres hefo chi i brynu cacen. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!
|
03.09.18 Gwyl Y Nant
Gwahoddiad gan Nant Gwrtheyrn.
|
03.09.18 Labelu
Cofiwch labelu pob eiddo os gwelwch yn dda
|
03.09.18 Clwb Brecwast
Gwybodaeth bwysig am y Clwb Brecwast a Chlwb ar ôl ysgol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
20.07.18 DIOLCH
Dymuna holl staff yr ysgol ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn ac am eich caredigrwydd a'r holl anrhegion ddiwedd tymor! Bydd yr ysgol yn ail-agor ddydd Mawrth, Medi'r 4ydd. Diolch! |
09.07.18 Dyddiad Prom Bl. 6
Prom Blwyddyn 6 ar Ddydd Iau, 12fed o Orffennaf! |
04.07.18 Trefn Mabolgampau CA2 2018
Cliciwch yma i weld yr amserlen. |
21.06.18 Calendr Tymor yr Haf.
Cliciwch yma i weld y calendr. |
18.05.18 Cyfanswm Ffair Wanwyn Ysgol Cymerau - £748,01
Hoffai staff yr ysgol â phlant Y Cyngor Ysgol ddiolch yn fawr i bawb a gefnogodd Y Ffair Wanwyn. Diolch arbennig i’r holl fusnesau lleol a gyfrannodd yn hael tuag at y raffl. Casglwyd £748.01 tuag at yr Ysgol a Hosbis Dewi Sant. Diolch yn fawr iawn. |
16.04.18 Big Pedal 2018
Mwy o wybodaeth i ddilyn ....... |
16.03.18 Gwynedd Ddigidol | Digital Gwynedd
Bydd Gwynedd Ddigidol | Digital Gwynedd yn mynychu ein nosweithiau rhieni wythnos nesaf er mwyn hyrwyddo system talu ar-lein yr ysgol. Bydd Anti Sharon hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a'ch cynorthwyo i sefydlu eich cyfrif. Cliciwch yma i weld y poster |
14.03.18 Diwrnod y Llyfr 2018
I weld mwy o luniau - cliciwch yma |
08.03.18 Diwrnod y Llyfr
Bydd diwrnod y llyfr yn cael ei ail-drefnu at ddydd Llun, 12fed o Fawrth. Diolch. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
05.02.18 Sêr yr wythnos CA2 02/02/18. Da iawn!
09.01.18 At sylw rieni plant blwyddyn 3 a 4
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
18.12.17 Clwb Cymerau
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen cofrestru plentyn
|
23.11.17 T4U
75 o focsys wedi cael eu casgu at apel bocsys ‘sgidia’ T4U ‘leni! Diolch i bawb am eu cefnogaeth! |
17.11.17 Plant Mewn Angen
Diwrnod Plant Mewn Angen llwyddiannus eto eleni. Diolch i bawb am ein helpu i godi £414.00 drwy wisgo i fyny a chymryd rhan yn y Sioe Dalentau! Bu i Pudsey ag Aled Hughes BBC Radio Cymru sdopio heibio ar ei daith feics hefyd! Diolch! |
10.11.17 Archebion Lluniau
Mae'n rhaid i archebion lluniau Ysgol Gwynant Parri gael eu dychwelyd i'r ysgol erbyn dydd Llun, 13eg o Dachwedd os gwelwch yn dda. |
10.11.17 Ysgol Cymerau ar S4C!
Cofiwch wylio S4C heno er mwyn gweld criw Ysgol Cymerau yn cymryd rhan yn rhaglen Pigo dy Drwyn! |
09.10.17 Tlws Presenoldeb Perffaith Mis Medi 2017
Enillwyr Tlws Presenoldeb Perffaith mis Medi 2017 yw dosbarth Blwyddyn 5/6 Miss Eleri Thomas gyda 97%. Llongyfarchiadau! |
06.10.17 Sêr yr Wythnos CA2
Da iawn pawb! |
29.09.17 Sêr yr Wythnos CA2
Ardderchog! |
22.09.17 Sêr yr Wythnos CA2
Ardderchog! |
22.09.17 Baton y Gymanwlad
I weld mwy o luniau - cliciwch yma |
22.09.17 Calendr 2017-18
Dyddiadau hyd yma - cliciwch yma |
07.09.17 Bwydlen Ysgolion Cynradd 2017 - 2018
Bwydlen Ysgolion Cynradd 2017-18 - cliciwch yma Cyngor Gwynedd - cliciwch yma |
29.08.17 Pris cinio ysgol
Pris cinio ysgol o fis Medi 2017 ymlaen fydd £2.50 y dydd. |
15.08.17 YouTube Llywodraeth Cymru
Gwyliwch y fideos ar-lein drwy chwilio am Adnoddau Mathemateg ar Sianel You Tube Llywodraeth Cymru http://www.youtube.com/user/welshgovernment |
15.08.17 Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref
I weld wybodaeth am hyn - cliciwch yma |
24.07.17 Diolch o galon!
Dymuna holl staff yr ysgol ddiolch yn fawr iawn i rieni'r ysgol am eich cefnogaeth drwy gydol a flwyddyn ac am y caredigrwydd a'r holl anrhegion ddiwedd tymor! Diolch o galon! |
18.07.17 Cyfanswm Ffair Haf Ysgol Cymerau - £1,158.50 !
|
04.07.17 Ffair Haf Ysgol Cymerau
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
19.06.17 Calendr Tymor yr Haf 2017
Gweler Calendr Diwygiedig Tymor yr Haf 2017 Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
25.04.17 COFRESTRU DISGYBLION AR GYFER MIS MEDI 2017
Mae'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru disgyblion wedi pasio. Er hyn mae'n dal yn bosib i chwi wneud cais ar gyfer eich plentyn i'r dosbarth Meithrin neu'r dosbarth Derbyn. Cysylltwch gyda'r ysgol am ffurflen neu fe allwch gwblhau'r ffurflen gais ar lein: http://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Ysgolion-a-dysgu/Mynediad-i-ysgolion.aspx |
18.04.17 Bydd yr ysgol yn ail-agor ar gyfer Tymor yr Haf ar ddydd Llun, Ebrill 24ain.
14.03.16 Nosweithiau Rhieni Derbyn-Bl.6 wythnos nesaf wedi eu gohirio
Nosweithiau Rhieni Derbyn-Bl.6 wythnos nesaf wedi eu gohirio. Ail-drefnu ar gyfer nos Lun 27/3/17 a nos Fercher 29/3/17. Amseroedd i ddilyn. Ymddiheuriadau. |
06.03.17 Ffair Wanwyn Ysgol Cymerau
Cofiwch am ein Ffair Wanwyn nos Fercher yma 4-6y.p! Bydd yr holl elw yn mynd tuag at taith Bl.6 i Gaerdydd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
28.02.17 Dydd Gwyl Dewi
Mae croeso i'r plant wisgo gwisg draddodiadol Gymreig, dillad coch, gwyn a gwyrdd neu unrhyw beth sy'n ymwneud a Chymru yfory i ddathlu Dydd Gwyl Ddewi.
|
15.02.17 Ffair Wanwyn Ysgol Cymerau
Nos Fercher, Mawrth 8fed 4-6y.p Cynhelir gan blant Blwyddyn 6 Mae plant Blwyddyn 6 yn cynnal Ffair Wanwyn i hel pres at drip Caerdydd - cliciwch yma am fwy o wybodaeth Poster Ffair Wanwyn - cliciwch yma |
06.02.17 Calendr
Calendr Tymor y Gwanwyn 2017 - cliciwch yma |
19.12.16 Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i holl rieni, plant a staff Ysgol Cymerau! Bydd yr ysgol yn ail-agor i blant ar ddydd Mercher, Ionawr 4ydd 2017. |
15.12.16 Ffair Nadolig Cymerau
Nos Iau, Rhagfyr 15fed am 6 o'r gloch. Croeso cynnes i bawb! Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
09.11.16 Cyfarfodydd Ysgolion
Newidiadau Posib i Ysgolion Gwynedd - cliciwch yma |
24.10.16 Ysgol yn Ail-Agor
Bydd yr ysgol yn ail agor i ddisgyblion ar ddydd Mawrth, Tachwedd 1af 2016. |
17.10.16 Tynnu Lluniau Unigolion a Theuluoedd
Bydd Gwynant Parri yn yr ysgol dydd Iau, Hydref 20fed i dynnu lluniau unigolion a theuluoedd o 8:30am ymlaen. Mae croeso i chi ddod a phlant iau nag oed ysgol yn ystod y bore os yn berthnasol. |
06.10.16 Calendr Cymerau
Calendr Cymerau 2016-17. Dyddiadau hyd yma! - cliciwch yma |
04.10.16 Cefnogi Elusen Macmillan
Bore Gwener Medi 30ain cynhaliwyd bore coffi Macmillan yn neuadd yr Ysgol. Daeth nifer o ffrindiau'r ysgol i gefnogi a hefyd gwerthwyd cacennau i'r disgyblion. Casgwlyd £560 tuag at yr elusen. Diolch i bawb am gefnogi! |
03.10.16 Cefnogi Elusen Macmillan
£560 wedi cael ei gasglu tuag at elusen Macmillan heddiw 30/9/16. Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi! |
30.08.16 Cyrsiau Cymraeg i oedolion
Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma |
30.08.16 Bydd Ysgol Cymerau yn ail agor i ddisgyblion Dydd Llun, Medi 5ed 2016.
Bydd Ysgol Cymerau yn ail agor i ddisgyblion Dydd Llun, Medi 5ed 2016. Edrychwn ymlaen i groesawu pawb yn ôl! |
04.07.16 Gwneud bara
Bu disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn arbrofi drwy bobi bara amrywiol gyda cynhwysion o'u dewis. Cliciwch yma i weld mwy o luniau |
09.06.16 Diwrnod Ffrengig - Dydd Gwener, Mehefin 10fed
|
05.05.16 Noson Diogelwch ar y Rhyngrwyd i Rieni Dydd Mawrth Mai 10fed
|
14.04.16 Elusen Awyr Las
|
24.03.16 Nodyn Atgoffa - Cyfarfod Cymdeithas Rieni
Cyfarfod Cymdeithas Rieni yn Y Fic Pwllheli, nos Iau, 14 Ebrill 8pm. Dewch yn llu!
18.03.16 Darganfod Mwy Ar-lein...
|
18.03.16 Adroddiad Arolygiad Estyn
Erbyn hyn mae adroddiad Arolygiad Estyn ar eu safwe. Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad.
04.12.15 Arolygiad Estyn
Estyn yn dod i arolygu Ysgol Cymerau – 11/01/16 tan 14/01/16.
Linc holiadur rhieni:
http://vir.estyn.gov.uk/default.aspx
Bydd angen i bob holiadur fod wedi ei lenwi erbyn dydd Gwener 11/12/15.
25.11.15 Mynediad i Ysgol Gynradd Medi 2016
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth |
16.11.15 Nosweithiau Rhieni
Diolch i holl rieni'r ysgol am fynychu'r Nosweithiau Rhieni wythnos yma. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr! Mae croeso hefyd i chi ffonio'r ysgol i ail-drefnu os nad oedd modd i chi fod yn bresennol.
13.11.15 Plant Mewn Angen
£516.91 wedi ei gasglu tuag at Plant Mewn Angen heddiw! Diolch i bawb am gyfrannu.
05.10.15 GOHIRIO - Ymweliadau i Ynys Enlli
Oherwydd y rhagolygon tywydd, mae ymweliadau Bl.5/6 i Ynys Enlli dydd Llun a Mawrth nesaf (5-6/10/15) wedi eu gohirio am y tro.
14.09.15 Apêl Canser Macmillan
Llwyddwyd i godi £310.00 heddiw 11/9/15 tuag at Apêl Canser Macmillan! Diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu!
02.09.15 Croeso Nôl!
Croeso nôl i holl blant a staff yr ysgol ar ddydd Mercher, Medi 2il 2015!
Gwisg ysgol ar gael nawr o swyddfa'r ysgol!
Siwmperi £10 / Crysau Polo £8
28.08.15 Cystadleuaeth Poster
|
28.08.15 Ysgol yn ail-agor
Bydd yr ysgol yn ail-agor i ddisgyblion ar ddydd Mercher, Medi 2il, 2015
Cliciwch yma am ddyddiadau tymhorau
06.07.15 Code Club
Llongyfarchiadau mawr i Mari Williams (Blwyddyn 6) am ddod yn 2il yng nghystadleuaeth Code Club yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn ddiweddar.
I weld lluniau'r diwrnod ewch i'r Galeri.
06.07.15 Rasus Cyfnewid CA2
Rasus Cyfnewid CA2 wedi cael eu hail-drefnu ar gyfer pnawn Llun, Gorffennaf 6ed.
02.07.15 Dyddiad i gofio
Ffair Haf Ysgol Cymerau
Nos Iau, Gorffennaf 9fed rhwng 5:00 a 7:00 o'r gloch Mynediad - 50c
27.05.15 Y Gân Actol
Da iawn i griw y Gân Actol a fu'n perfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerffili Ddydd Llun 25.05.15.
Cliciwch yma i'w gweld ar S4C - ar 58:25 munud mae Cymerau yn cael ei ddangos!
26.05.15 Pypedau!
Llongyfarchiadau mawr iawn i Tom, Dion, Charlie, Danial, Daisy,
Courtney,
Katie,
Owen, ac Osian (Blwyddyn 2) am ddod yn 1af yn yr Eisteddfod gyda'u Gwych!
|
07.05.15 Casglu Arian at Gronfa'r Urdd
Cynhelir Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd (am gyfraniad o £1) a stondin gacennau i gasglu arian tuag at Gronfa'r Urdd ar Ddydd Gwener, Mai 15fed. Am fwy o fanylion cliciwch yma.
05.05.15 Profion Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn cymryd lle wythnos yma i Flynyddoedd 2-6.
Mwy o wybodaeth am y profion ar gael yn yr Adran Llythyrau
21.04.15 Blwyddyn 6 yng Nghaerdydd
I weld y lluniau, cliciwch yma |
LLYTHYR - Gwyl Dewi a Diwrnod y Llyfr
Diolch i bawb!
gyfranodd tuag at Diwrnod Cenedlaethol Gwisgo Coch. Llwyddwyd i godi £404.05 tuag at Cronfa Bobbi Rees, Uned y Galon, Ysbyty Alderhey.
Tan-y-Bwlch
Taith preswyl Blwyddyn 5 i Blas Tan-y-Bwlch wedi cael ei ail-drefnu ar gyfer Mawrth 11-12, 2015.
Cofrestru ar gyfer Medi 2015
Gwybodaeth i Rieni – cliciwch yma
13.02.15 - Diwrnod HMS Staff
Cofiwch y bydd yr ysgol ar gau ddydd Gwener, Chwefror 13eg, 2015 ar gyfer diwrnod HMS Staff.
Remember that the school will be closed on Friday, 13th February for Staff INSET day.
06.02.15 - Diwrnod Gwisgo Coch
Cofiwch wisgo coch ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Gwisgo Coch ar Chwefror 6ed, 2015!
Bydd eich cyfraniad yn mynd tuag at Ysbyty Plant AlderHey.
Remember to wear red on National Wear Red Day - February 6th, 2015
Your donation will go towards AlderHey Children's Hospital.
Rhif Ffôn: (01758) 612001
E-bost: alan.jones@cymerau.ysgoliongwynedd.cymru
Cyfeiriad: Ffordd Mela, Pwllheli, Gwynedd LL53 5AR
© 2024 Ysgol Cymerau | Datganiad Preifatrwydd | Gwefan gan Delwedd