Ers lansio’r Siarter Iaith Gymraeg yn ysgolion cynradd Gwynedd, mae llawer o waith gwerth chweil wedi digwydd yn ein hysgol. Nod y Cyngor Siarter Iaith yw dylanwadu’n bositif ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg. Mewn gair, cael y plant i siarad Cymraeg yn naturiol ymysg ei gilydd. Mae’r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - y cyngor ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.
Targedau'r Siarter Iaith Ysgol Cymerau
- Defnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. appiau, y We, tecstio).
- Gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg
- Gwylio rhaglenni Cymraeg ar S4C / dros y We / DVDs
- Siarad Cymraeg y tu allan i’r ysgol (yn y siopau, parc, canolfan hamdden, wrth gerdded i’r ysgol
- Siarad Cymraeg gartref
- Siarad Cymraeg ar yr iard
- Siarad Cymraeg ar y coridor ac yn y neuadd ginio
Rhestr Apiau Cymraeg - cliciwch yma i'w lawrlwytho fel pdf
Cyflwyniad Comisiynydd y Gymraeg - cliciwch yma i'w agor yn Google Slides
07.02.2020 Dydd Miwsic Cymru
Dyma ychydig o’n hoff ganeuon yma yn Ysgol Cymerau!
Cliciwch yma i weld y fideo