Dyddiad: 2020-08-31
Ymhellach i’r llythyr yn nodi’r trefniadau cychwynnol o ran ail-agor yr ysgol ym mis Medi, gweler yr amseroedd cychwyn a gorffen.
Os oes mwy nag un plentyn yn y teulu, gofynnwn yn garedig i chi gyrraedd a gadael yr ysgol yn unol ag amserlen y plentyn ieuengaf os gwelwch yn dda. Bydd drws pob dosbarth ar agor o 08:50 ymlaen i dderbyn plant teuluoedd.
Bydd y Clwb Brecwast a’r Clwb ar ôl Ysgol ar gael o’r 07/09/20 ymlaen. Mae’n hanfodol eich bod yn archebu lle a thalu o flaen llaw ar wefan Cyngor Gwynedd neu’r app School Gateway ar gyfer rhain os gwelwch yn dda. (Bydd y system ar-lein yn ail agor wythnos nesaf). Er mwyn sicrhau diogelwch pawb ac ymdrechu i gadw ‘swigod’ dosbarth bydd y plant yn eistedd gyda rhai o’r un dosbarth tra maent yn y clybiau.
Beth fydd y drefn danfon a chasglu fy mhlentyn o’r ysgol?
-
Gofynnwn i chi fod yn brydlon os gwelwch yn dda, gan beidio bod ar yr iard yn rhy gynnar nac ymgynnull o gwbl.
-
Dim ond UN rhiant fydd yn cael dod ar iard yr ysgol i hebrwng eu plant.
-
Bydd angen un rhiant i ddanfon a chasglu plant Meithrin – Blwyddyn 4 o ddrws y dosbarth.
-
Dim ond plant Blwyddyn 5 a 6 fydd yn cael dod ar iard yr ysgol eu hunain ac yn syth at ddrws dosbarth Mr Ilan Williams
ar yr amser cywir. Ni fydd angen i rieni plant Blwyddyn 5 a 6 ddod ar dir yr ysgol heblaw i ddanfon/casglu plant iau.
-
Ni chaniateir sgwters na beiciau ar dir yr ysgol.
-
Bydd system unffordd ar dir yr ysgol wedi ei farcio’n glir gyda saethau gwyn.
-
Bydd angen i rieni ddanfon a chasglu eu plant o ddrysau penodol fel a nodir ar y cynllun isod gan gadw 2 fetr ar wahân
er mwyn cadw pellter cymdeithasol. Gofynnwn yn garedig i chi barchu hyn a pheidio croesi’r linell felyn nes fydd yr athro/wes wedi galw eich plentyn i mewn i’r ysgol. Yna, bydd disgwyl i’r rhiant adael tir yr ysgol gan ddilyn y system unffordd.
-
Bydd diheintydd ar gael wrth bob drws ar gyfer y plant ar eu ffordd i mewn i’r dosbarth, nes y cânt gyfle i olchi eu dwylo unwaith yn y dosbarth.
-
Rhaid defnyddio’r giât fach ger y maes parcio i gael mynediad i’r ysgol a’r giât ar y llwybr tuag at Ffordd y Faenor i adael. Bydd giât Winllan Lloyd wedi ei chloi. Dylai bob rhiant ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol wrth ddanfon a chasglu eu plant o’r ysgol.
-
Oherwydd y gwaith adeiladu sydd yn mynd ymlaen ar dir yr ysgol, gofynnwn yn garedig i chi beidio a cherdded o amgylch y gegin ac i gael mynediad i gefn yr ysgol drwy’r drysau dwbl rhwng y gegin a dosbarth Bl.5/6 Mrs Thomas os gwelwch yn dda.
-
Clwb Brecwast a’r Clwb ar ôl Ysgol i ddefnyddio drws y prif fynedfa fel arfer.
Yn ôl i'r prif dudalen newyddion.